2014 Rhif 2776 (Cy. 282)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Pennu’r Weithdrefn) (Cyfnod Rhagnodedig) (Cymru) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud gan Weinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 88E a 93 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (“Deddf 1990”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn cael eu rhagflaenu gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Pennu’r Weithdrefn) (Cymru) 2014, a fewnosododd adran  88E yn Neddf 1990.

Mae adran 88E o Ddeddf 1990 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru bennu’r weithdrefn ar gyfer rhai achosion yng Nghymru, sef achosion ar gyfer ceisiadau sy’n cael eu hatgyfeirio at Weinidogion Cymru o dan adran 12 ac apelau o dan adrannau 20 a 39 o Ddeddf 1990. Rhaid i Weinidogion Cymru bennu’r weithdrefn ar gyfer achosion o’r fath cyn diwedd y cyfnod rhagnodedig. 

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi mai saith niwrnod gwaith o’r dyddiad perthnasol yw’r cyfnod hwnnw, sy’n cael ei ddiffinio at y dibenion hyn.

Paratowyd asesiad effaith mewn perthynas â’r offeryn hwn. Gellir cael copïau oddi wrth Is-adran Gynllunio Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 


2014 Rhif 2776 (Cy. 282)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Pennu’r Weithdrefn) (Cyfnod Rhagnodedig) (Cymru) 2014

Gwnaed                                 14 Hydref 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       17 Hydref 2014

Yn dod i rym                     12 Tachwedd 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 88E([1]) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 ac a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 93([2]) o’r Ddeddf honno, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy([3]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a dehongli

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Pennu’r Weithdrefn) (Cyfnod Rhagnodedig) (Cymru) 2014.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 12 Tachwedd 2014.

(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

Cyfnod rhagnodedig

2.(1)(1) Saith niwrnod gwaith o’r dyddiad perthnasol yw’r cyfnod rhagnodedig at ddibenion adran 88E(3) o Ddeddf 1990.

(2) Ym mharagraff (1)—

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ŵyl y Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall yng Nghymru; ac

ystyr “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw—

(a)     o ran atgyfeiriadau o dan adran 12([4]) o Ddeddf 1990, y diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o’r atgyfeiriad gan yr awdurdod cynllunio lleol;

(b)     o ran apêl o dan adran 20([5]) o Ddeddf 1990, y diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o’r apêl, ynghyd â’r dogfennau a bennir yn rheoliad 12(2) o Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012([6]); ac

(c)     o ran apêl o dan adran 39([7]) o Ddeddf 1990, y diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o’r apêl a’r datganiad ysgrifenedig yn unol â rheoliad 5 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2003([8]).

 

 

 

 

Carl Sargeant

 

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

 

14 Hydref 2014



([1])           1990 p. 9. Mewnosodwyd adran 88E o Ddeddf 1990 gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Pennu'r Weithdrefn) (Cymru) 2014, O.S. 2014/2773 (Cy.280).

([2])           Mae diwygiadau i adran 93 o Ddeddf 1990 ond nid yw'r un ohonynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

([3])           Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

([4])           Mae diwygiadau i adran 12 o Ddeddf 1990 ond nid yw'r un ohonynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

([5])           Diwygiwyd adran 20 o Ddeddf 1990 gan adran 43(4)(a) a (b) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004.  Mae diwygiad arall ond nid yw'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

([6])           O.S. 2012/793 (Cy. 108).

([7])           Diwygiwyd adran 39 o Ddeddf 1990 gan adran 25 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991, a pharagraff 3(2), (3) a (4) o Atodlen 3 iddi; ac erthygl 7 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Cyfathrebu Electronig) (Rhif 1) 2004, O.S. 2004/3156.  Mae diwygiadau eraill ond nid yw'r un ohonynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

([8])           O.S. 2003/394 (Cy. 53).